Rydym wedi #GOTTHEBOTTLE

Arbedwch arian, gofalwch eich bod yn yfed digon o ddŵr a helpwch i atal llygredd plastig yn ei darddle drwy ail-lenwi’ch poteli dŵr am ddim gyda REFILL Mermaid Quay, rhan o’n hymgyrch i fod yn fwy cynaliadwy.

Dyma ymgyrch y DU gyfan i leihau llygredd plastig trwy sicrhau bod ail-lenwi potel ddŵr mor hawdd, cyfleus a rhad â phosib, gyda Gorsafoedd Ail-lenwi ym mhob stryd. Mae ap Refill yn dangos lle cewch chi ail-lenwi’ch potel ddŵr am ddim.

Lansiwyd REFILL Mermaid Quay ym mis Mehefin 2019 gyda Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a phlant o Ysgol Gynradd Mount Stuart. Darllenwch fwy am y lansiad yma https://www.mermaidquay.co.uk/2019/06/environment-minister-launches-refill-mermaid-quay/?lang=cy

Mae 9 o lefydd ym Mermaid Quay eisoes wedi cofrestru fel Gorsafoedd Ail-lenwi, gan gynnig cyfle i’r cyhoeddi ail-lenwi eu poteli dŵr yn rhad ac am ddim:
BUPA Dental Care
Cadwaladers
Coffi Co
Cosy Club
Fabulous Welshcakes
The Dock
Everyman Cinema
Greggs
Nando’s
Yakitori #1

Ail-lenwi

Ail-lenwi (Refill) yw un o nifer o ymgyrchoedd City to Sea, sefydliad dielw sy’n ymgyrchu dros atal llygredd plastig yn y môr.

Lansiodd Refill ym Mryste yn 2015, ac mae dros 13,000 o Leoliadau Ail-lenwi ar hyd a lled y DU bellach wedi cofrestru am ddim ar yr ap Refill sydd yn dangos lle gallwch ail-lenwi eich potel ddŵr am ddim.

Dysgwch fwy am Refill yma:
Gwefan: www.refill.org.uk
www.citytosea.org.uk
Twitter: @refillwales