BWYTA, YFED, SIOPA A CHWARAE YN MERMAID QUAY
Wedi’i leoli mewn lleoliad godidog ar lan y dŵr, mae yma fwytai, bariau, caffis, adloniant, siopau a gwasanaethau yng nghanol Bae Caerdydd.
Mewn ardal sydd wedi’i thrwytho yn hanes diwydiannol Cymru, mae pensaernïaeth nodedig Mermaid Quay wedi’i hysbrydoli gan y lleoliad morwrol a’r dreftadaeth gyfoethog.
Os ydych chi’n mwynhau bwyd o bedwar ban byd, mae gan Mermaid Quay rywle fydd yn addas i bob chwaeth, cyllideb a hwyl. Awydd gwneud ychydig o siopa? Gallwch bicio i siop roddion Zia Boutique, Fabulous Welshcakes, Pavers Shoes, Tesco Express a salon gwallt arobryn Ken Picton. Yn ogystal ag adloniant at ddant pawb, gallwch fwynhau’r ffilmiau diweddaraf yng nghysur moethus Sinema Everyman. Mae yno bum sgrin sinema, cegin Spielburger, a bar moethus sy’n gweini coctels, prydau i’w rhannu a pizzas. Cewch lond bol o chwerthin yn The Glee Club, clwb comedi cyntaf a gorau Caerdydd neu beth am daith hyfryd ar wasanaeth bws dŵr yr Aquabus – sy’n cynnig teithiau o amgylch y Bae, y tu hwnt ac i ganol y ddinas.
P’un a ydych chi’n ymweld am noson gyda’ch cariad, ar ddiwrnod allan gyda’r teulu neu’n cael diwrnod o hwyl a sbri gyda ffrindiau, mae Mermaid Quay yn lleoliad perffaith.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn Mermaid Quay a Bae Caerdydd, ewch i ran beth sydd ymlaen y wefan hon.

Loceri Amazon
Gellir dod o hyd i Loceri Amazon ar lefel isaf yr Atriwm. Wrth archebu ar wefan Amazon, cadwch lygad am yr opsiwn i ddewis danfon i'n Loceri Amazon (Elin- Bae Caerdydd) wrth y ddesg dalu. Gallwch gasglu’ch parsel wrth ymweld â Mermid Quay.
Peiriannau Twll yn y Wal
Mae'r safle ATM wedi'i leoli ger Tesco.
Eiddo Coll
Os ydych chi wedi colli eiddo wrth ymweld â Mermaid Quay, cysylltwch â Rheolwyr Mermaid Quay ar 02920 480 077
Toiledau
Lleolir y toiledau ar y llawr cyntaf, gyferbyn ag Ystafell Reoli'r Ganolfan / ger The Glee Comedy Club a gellir eu cyrraedd mewn lifft neu drwy ddringo’r grisiau. Mae'r toiledau ar agor rhwng 7:00am a 10:00pm.
WiFi
Mae cadw cysylltiad pan fyddwch chi allan yn bwysig, felly mae Mermaid Quay yn cynnig WiFi am ddim i'n cwsmeriaid yn ystod eich ymweliad. Cysylltwch â rhwydwaith Mermaid Quay i ddechrau.