Cyfleoedd I Brydlesu

Mae Mermaid Quay wedi bod yn ganolbwynt poblogaidd i Fae Caerdydd ers dros 20 mlynedd. Yn dilyn gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd, mae’r ganolfan 150,000 troedfedd sgwâr wedi’i thrawsnewid yn llwyr, ac yn cynnig cyfnod newydd o brofiadau bwyta, yfed a hamddena ar lan y dŵr yn ogystal â siopau a gwasanaethau moethus.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer ymestyn a gwella maes parcio Mermaid Quay, gan ychwanegu mwy na 300 o leoedd. Rhagor o wybodaeth yma.

Cyfuniad unigryw o fwytai, caffis a bariau ynghyd â chlwb comedi gorau’r rhanbarth.

Mae’n denu bron i 5.5 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn.

Mae canolbwynt Bae Caerdydd, Mermaid Quay, wedi’i amgylchynu gan swyddfeydd newydd o fri, prosiectau preswyl cyfoes a chyfleoedd hamdden.

Mae yna atyniadau ymwelwyr dafliad carreg o Mermaid Quay gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Techniquest, Plas Roald Dahl, y Senedd, Y Pierhead a’r Eglwys Norwyaidd.

Y FFEITHIAU

Mae mwy na 1.34 miliwn o bobl yn byw yn nalgylchoedd craidd ac eilaidd Caerdydd – Pitney Bowes 2018

361,468 yw poblogaeth Ardal Drefol Caerdydd – amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2016 miliwn o bobl yn byw o fewn taith 30 munud mewn car – 2016 Ward Bae Caerdydd/Butetown, NOMIS 2016

26,000 o bobl yn gweithio ym Mae Caerdydd – ward Bae Caerdydd/Butetown, NOMIS 2016

75% o ymwelwyr â Mermaid Quay yn ABC1 – Mall Research Consultancy, 2016

Cyfanswm effaith economaidd ymwelwyr â Bae Caerdydd £241 miliwn y flwyddyn – Cardiff STEAM 2015

GWNEWCH EICH MARC YN MERMAID QUAY

Cysylltwch â’n hymgynghorwyr i drafod ymhellach.

Phillip Morris
t: 029 2037 8844
m: 07779 666210
e: [email protected]

Chris O’Mahony
t: 0117 910 2204
m: 07870 555 988
e: [email protected]