Mae Yakitori#1 yn cynnig bwyd Japaneaidd modern, wedi’i baratoi gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres o ffynonellau cynaliadwy. Mae’r fwydlen helaeth yn cynnwys y sushi, cigoedd o’r gridyll, pysgod, reis a nwdls gorau, gyda ffefrynnau traddodiadol o Japan a phrydau y mae’n bosibl na fyddwch erioed wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen.
Beth am roi cynnig ar y rholiau maki, er enghraifft, gyda dewis o teriyaki cyw iâr wedi’i goginio, cranc cragen feddal, corgimychiaid tempura, afocado a mango neu kamikaze tiwna?
Mae’r fwydlen yn ddengar ac yn amrywiol, gyda rhywbeth at bob dant ac i bob poced. Mae’r prydau iachus wedi’u cynllunio i gael eu rhannu wrth y bwrdd neu eu mwynhau’n unigol. Mae yna hyd yn oed fwydlen i blant i’r ymwelwyr iau, felly gall y teulu cyfan fwynhau’r profiad bwyta newydd hwn yng Nghei’r Fôr-forwyn. Mae’r Pecyn Cinio hefyd yn ddewis gwych os hoffech fynd â’ch bwyd allan i fwynhau’r olygfa yn y Bae.
Yn Yakitori#1, gallwch fwynhau pryd gwych sawl cwrs neu bryd bach ysgafn, a hynny mewn lleoliad cyfoes ac anffurfiol lle gallwch hyd yn oed wylio’r cogyddion arbenigol yn gweithio yn y gegin agored, ac os nad ydych wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio gweill bwyta o’r blaen, gall y staff hyd yn oed yn rhoi gwers diwtorial ichi yn y fan a’r lle!
Llun i Iau 12:00 – 14:30, 17:30 – 22:30
Maw: Ar gau
Gwe a Sad: 12:00 – 22:30
Sul: 12:00 – 22:00