Mae ardal Mermaid Quay yn gwneud ei gorau glas i fod yn fwy cynaliadwy ac yn chwilio byth a hefyd am gyfleoedd i gyflwyno dewisiadau ecogyfeillgar i’r Ganolfan.
Roedd y defnydd o bosteri a baneri PVC yn y gyffredin iawn yn y gorffennol. Roeddent yn cael eu defnyddio i hyrwyddo digwyddiadau ac ymgyrchoedd ar y safle, a hwn oedd y deunydd oedd yn cael ei ffafrio mewn gwirionedd. Wedi’i wneud o blastig a sgrim polyester mae’n wydn iawn, yn rhad, ac yn gryf ond mae hefyd yn ddeunydd anodd iawn i’w waredu.
Roedd llawer o’r posteri a’r baneri hyn wedi eu pentyrru mewn cornel o storfa ac roedd tîm safle Mermaid Quay eisiau canfod ffordd o gael gwared ar y deunydd hwn mewn ffordd gyfrifol.
Drwy weithio gyda Sylvia Davies o gwmni eto eto, sydd wedi’i leoli yn The Sustainable Studio, rydyn ni wedi gallu cyfrannu dwsin o faneri i’r cwmni hyd yma. Ar hyn o bryd mae’r baneri hyn wrthi’n cael eu trawsnewid yn fagiau wedi’u huwgylchu sydd ar werth yn siop ar-lein eto eto ac mewn marchnadoedd crefftau ar hyd a lled y DU.
Hoffech chi ddysgu mwy am hynt yr eitemau hyn? Dilynwch eto eto ar Instagram neu Facebook – @etoeto.uk
Neu ewch draw i’r wefan am ragor o wybodaeth ac i wybod sut allwch chi gyfrannu eich hen eitemau chi.
Mewn sgwrs gyda Sylvia , dywedodd:
“Rydyn ni fel cymdeithas yn creu cymaint o wastraff nad oes modd ei ailgylchu, mae’n llethu rhywun a dweud y gwir. Mae lleihau’r holl wastraff yn dasg allweddol a brys i bob busnes. Yn y cyfamser, mae’n braf gweithio gyda chwmnïau fel Mermaid Quay sy’n ymddiddori’n fawr yng nghamau nesaf eu deunyddiau gwastraff. A’r peth gorau am hyn yw taw prin filltir i ffwrdd o Mermaid Quay mae stiwdio eto eto, sy’n golygu cadw costau carbon cludo mor isel â phosib.
Drwy fy musnes i, eto eto, dwi’n gwneud bagiau o bob math o ddeunyddiau cadarn a wnaed yn wreiddiol i’w defnyddio yn yr awyr agored. Ac eto, Mermaid Quay oedd y cwmni cyntaf i ddod ata’i gyda baneri finyl wedi’u defnyddio. Fe gymerodd gryn amser i mi ystyried pa fathau o fagiau i’w gwneud gyda’r casgliad astrus o finyl patrymog, a chael gafael ar ddeunyddiau gwastraff eraill a fyddai’n ategu lliwiau a gwead y finyl.
Dyma’r casgliad cyntaf: bagiau hedfan gyda’r tu blaen a’r tu ôl wedi’u gwneud o faneri Mermaid Quay, cwysed wedi’i wneud o doriadau castell bownsio, y leinin o bebyll wedi torri a thorion gan gwmni cynhyrchu ymbarél yn y DU. Mae’n braf rhoi bywyd newydd i hen bethau.”Sylvia Davies | eto eto – ategolion wedi’u huwchgylchu
Hanes eto eto
• Ethos busnes eto eto yw dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi drwy gynhyrchu bagiau ac ategolion o gynnyrch gwastraff.
• Mae nwyddau eto eto yn ymarferol. Maen nhw’n gryf, yn hawdd i’w glanhau ac yn cynnig steil heb ddilyn chwiwiau ffasiwn cyflym.
• Beth sy’n gwneud cynnyrch eto eto yn ecogyfeillgar? Mae bagiau a chydau eto eto wedi’u gwneud o ddeunyddiau wedi’u huwchgylchu, y tu mewn a’r tu allan.
• O beth mae’r bagiau a’r cydau wedi eu gwneud? Mae rhestr y deunyddiau yn prysur dyfu! Fodd bynnag, maen nhw’n tarddu o hen ymbarelau, tiwbiau mewnol beics, gwregysau sedd, gwastraff ffatri, gwelyau aer, pebyll, pyllau padlo, cadeiriau gwersylla, jîns a thecstilau.