Masnachu Hysbysebol a Dros Dro

Mermaid Quay yw un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Caerdydd, gyda dros 5.5 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau sy’n amrywio o unedau sy’n addas ar gyfer siopau dros dro, certiau ar gyfer manwerthu crefftau neu gynhyrchion o ansawdd eraill a lleoliadau ar gyfer hyrwyddo profiadau unigryw.

Mae’r prisiau’n amrywio yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn/diwrnod o’r wythnos, defnydd (gyda phrisiau ffafriol ar gyfer gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth at brofiad ein hymwelwyr) a lleoliad o fewn y ganolfan.

Mae angen o leiaf 48 awr o rybudd arnom i brosesu’r gwaith papur. Byddwn yn gofyn i chi gyflwyno datganiad dull gwaith/disgrifiad manwl o’r hyn rydych chi am ei wneud, asesiad risg safle-benodol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gydag isafswm o £5m ar gyfer pob digwyddiad unigol.

Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn yn Mermaid Quay cysylltwch â Lyndsey yn Shoppertainment Management:

[email protected]

0161 817 5221

shoppertainmentmanagement.co.uk

ROALD DAHL PLASS

Nid yw Plas Roald Dahl yn rhan o Mermaid Quay.  

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio Plas Roald Dahl ar gyfer digwyddiad, e-bostiwch: [email protected]

GŴYL BWYD A DIOD CAERDYDD

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerdydd, cysylltwch â:

Stondinau bwyd – [email protected]

Stondinau masnach – [email protected]