The Glee

Nod The Glee yw rhoi llwyfan i’r comedi byw gorau bob nos Wener a nos Sadwrn. Mwynhewch bedwar o’r comedïwyr gorau o bob cwr o’r byd yn ein awditoriwm pwrpasol, gyda’r opsiwn o gael bwyd a diod gwych hefyd.

The Glee hefyd yw’r lle i ddod o hyd i gigiau cerddoriaeth byw, clyd, a’r goreuon ymhlith y comediwyr enwog. Mae enwau blaenorol yn cynnwys Sarah Millican, Michael McIntyre, Lee Evans, Rhod Gilbert a Reginald D Hunter, i enwi dim ond rhai.

Mae Nosweithiau Iau yn rhai tymhorol, gyda sioeau Pie Face Comedy (yn cynnig tocyn comedi gwych a phei Pieminister, tatws stwnsh a grefi) yn cael eu cynnal Hydref-Tachwedd ac Ionawr-Ebrill, bob blwyddyn.

Hefyd mae cyfle i weld sioeau cabaret a theithiau llafar; mae rhain yn sioeau sydd wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf mewn ffyrf sioeau drag (llawer o sêr RuPaul’s Drag Race), bwrlésg (The Gilded Merkin), teithiau llyfrau gorau, digwyddiadau addysgiadol megis Ignite, a digwyddiadau llesmeiriol ‘Noson yng nghwmni’ gyda gwesteion ddiwylliannol megis John Cooper Clarke a’r diweddar Howard Marks.

Archebwch eich tocynnau nawr

Cyswllt

0871 472 0400

www.glee.co.uk

[email protected]