TAITH GERDDED NODDEDIG ONE GREAT DAY YN CODI DROS £400 I ELUSENNAU PLANT

Cymerodd aelodau o Dimau Rheoli a Gwasanaethau Meddal Mermaid Quay ran mewn taith gerddednoddedig 10 milltir i godi arian ar gyfer One Great Day ddydd Iau 30 Medi.

Er gwaethaf y gwynt a’r glaw, cerddodd y tîm o amgylch Bae Caerdydd (ddwywaith) ac maen nhw wedi codi £418 ar gyfer Tŷ Hafan a Great Ormond Street Hospital hyd yn hyn.

Yn ogystal â cherdded, cynhaliodd y tîm weithgareddau codi arian yn Mermaid Quay gyda bagiau o bethau da i deuluoedd ac ymddangosiad gan Dora the Explorer.

Roedd y tîm yn falch o gymryd rhan yn nigwyddiad One Great Day a ddechreuodd yn 2014. Mae elusen One Great Day wedi codi dros £750,000 ar gyfer mwy na 220 o wahanol elusennau iechyd plant ledled y DU.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am One Great Day drwy ei wefan yn www.theonegreatday.com

Gallwch ddysgu mwy am y gwaith gwych mae Tŷ Hafan yn ei wneud yn www.tyhafan.org

Ac mae mwy o wybodaeth am Great Ormond Street Hospital yma www.gosh.nhs.uk