Cysur heb ei ailEisiau mynd ar siwrnai newydd? Mae gan Pavers yr esgidiau i fynd â chi yno (a’r bŵts a’r sliperi hefyd).

Gwisgwch i fyny gyda’r casgliadau chwennych o Pavers Shoes a darganfod arlwy arbennig sy’n cynnig cysur clustogog, leinin clyd, a manylion moethus. Byddwch chi’n siŵr o wisgo’r esgidiau hyn i bobman.

Mae gennym siapiau steilus mewn lliwiau llawen a fydd yn codi’r ysbryd ganol gaeaf noethlwm, heb sôn am y bŵts clyd sy’n berffaith ar gyfer haenu, ynghyd â sliperi clasurol a fydd yn gwneud y dyddiau (a’r nosweithiau) yn llawer mwy dymunol.

Mae Pavers wedi bod yn gwerthu esgidiau cyfforddus ers hanner can mlynedd a mwy bellach, felly mae’n gwybod popeth sydd angen ei wybod am greu’r esgid berffaith. Steil, cysur, a’r ffit perffaith – y tair elfen hanfodol sy’n mynd i mewn i bob pâr, felly gallwch fod yn siŵr o ddod o hyd i esgidiau anhygoel heb orfod cyfaddawdu o gwbl.

Mae Pavers yn credu bod teimlo’n gyfforddus ac yn steilus yn eich gwneud chi’n hyderus a’r nod yw cynnig esgidiau y byddwch am eu gwisgo dro ar ôl tro.

Gyda meintiau lletach, o rai safonol, llydan a llydan iawn a dewisiadau 6E mewn meintiau 2-10, gyda dewis o liwiau heb eu hail ac ategolion i gyd-fynd â nhw. Prynwch y brandiau gorau, gan gynnwys Skechers, Reiker, Fly Flot a llawer mwy…

Eisiau gwybod y rhan orau? Gallwch ddarganfod hyn i gyd gydag arbedion o hyd at 30% oddi ar RRP.

Oriau Agor

Llun i Sad: 10:00 – 18:00
Sul: 11:00 – 17:00

Phone

029 2048 8362

Website

pavers.co.uk

Facebook

pavers.shoes

Instagram

pavers_shoes

Phone

029 2048 8362

Website

pavers.co.uk

Facebook

pavers.shoes

Instagram

pavers_shoes