Yn Nando’s rydym yn dwlu ar gyw iâr PERi-PERi wedi’i grilio â fflam. Dyma ganolbwynt ein byd! Pa un a fyddwch yn bwyta gyda ffrindiau neu deulu neu’n cael noson allan gyda’r bechgyn/merched, mwynhewch flas ein cyw iâr PERi-PERi enwog, wedi ei weini’n frwd ac yn falch, yn naws ymlaciol ein bwyty.
Ymhell yn ôl yn y 15fed ganrif, ym mhriddoedd cyfoethog a gwres llethol De Affrica, bu i’n cyndeidiau Portiwgeaidd ganfod rhywbeth aruthrol o bwysig, sef y tsili llygad aderyn Affricanaidd hynod o boeth, a elwir yn PERi-PERi. Mae’n cael ei ychwanegu at gyfuniad arbennig o berlysiau a sbeisys i roi blas unigryw i saws PERi-PERi gwreiddiol Nando’s.
Mae PERi-PERi yn brofiad a hanner o ran blas, ac nid yw’n cynnwys unrhyw gadwolion, dim lliwyddion na blasau artiffisial, felly mae’n ddewis cwbl iach a naturiol i oedolion a phlant, fel ei gilydd!
Ac mae ysbryd Nando’s yn fyw yn ein bwyty. Bydd y cymysgedd eclectig o gerddoriaeth y byd, wedi’i dewis yn arbennig, a’r nodweddion unigryw yn sicrhau eich bod chi a’ch teulu yn mwynhau eich profiad yn Nando’s. Mae’n berffaith ar gyfer dathliadau pen-blwydd, digwyddiadau teuluol, neu, yn syml, noson allan llawn hwyl!
Pob dydd: 11:30 – 22.00