MERMAID QUAY YN CYFRANNU POTIAU PLANHIGION I YSGOL GYNRADD MOUNT STUART PRIMARY SCHOOL

Mae Mermaid Quay yng nghanol gwaith ailwampio sylweddol i’w mannau cyhoeddus ar hyn o bryd. Mae’r gwaith yn cynnwys tirweddu man cyhoeddus newydd, palmantu, goleuadau, tirweddu, arwyddion, cyfeirbwyntiau, marcwyr mynediad a chelfi stryd.
Fel rhan o’r ailddatblygiad hwn, cyflwynwyd potiau planhigion newydd i’r cynllun. Gan nad oeddem am weld y potiau presennol yn mynd yn wastraff, dyma benderfynu cysylltu ag ysgol gynradd Mount Stuart Primary School i weld a allen nhw wneud defnydd ohonyn nhw.
Yn wir, roedd ysgol gynradd Mount Stuart Primary School yn falch iawn o dderbyn y potiau hyn a gyda chymorth Mitie, contractwyr tirweddu Mermaid Quay, llwyddwyd i’w cludo i’w cartref newydd.
Mae Mermaid Quay yn falch o fod â pherthynas agos â Mount Stuart, ac rydym wedi cydweithio’n agos ers sawl blwyddyn.
Mae prosiectau diweddar eraill yn cynnwys staff Mermaid Quay yn helpu gyda phrosiectau garddio, rhoi tŷ gwydr ar gyfer eu maes chwarae, a sgwrs a chystadleuaeth diogelwch yn ymwneud ag adeiladu mewn partneriaeth ag EnCon.
Roedd cyfrannu ac ailddefnyddio’r potiau planhigion i weddnewid iard yr ysgol yn gyfle rhy dda i’w golli.