Mermaid Quay yn croesawu cŵn

Mae Mermaid Quay a Bae Caerdydd yn gyrchfan berffaith ar gyfer anturiaethau gyda’ch ffrindiau pedair coes gyda digonedd o lefydd sy’n croesawu cŵn i ymweld â nhw.

Rydyn ni wedi tynnu sylw at yr holl lefydd bow-endigedig y gallwch chi ymweld â nhw ar eich taith nesaf i Mermaid Quay!

Ydych chi’n crwydro’r bae?

  • Mae Aquabus yn caniatáu cŵn ar fwrdd eu cychod yn rhad ac am ddim.

Ymweld â Mermaid Quay ac awydd eistedd i lawr gyda choffi a chacen a hyd yn oed sbwylio’n ffrindiau pedair coes?

  • Mae Cadwaladers yn caniatáu cŵn y tu mewn a thu allan ac yn darparu powlenni dŵr os ydych chi’n gofyn. Gallwch hefyd gael hufen iâ neu fisged ci i’ch ffrind bach blewog.
  • Mae Coffi Co yn caniatáu cŵn yn eu hardal eistedd fewnol i lawr grisiau ac yn yr ardal eistedd tu allan ac maen nhw’n darparu powlenni dŵr. Gallwch hefyd sbwylio’ch ci gyda “puppachino”.
  • Mae Fabulous Welshcakes yn caniatáu cŵn wrth fynedfa’r siop lle gallant fwynhau cacen benodol iddyn nhw!

Ffansi mwy na phaned? Beth am beint a thamaid i’w fwyta?

  • Ewch i’r Cosy Club lle maen nhw’n cynnig bwyd a diod hamddenol ac yn croesawu cŵn yn eu bar a’u hardaloedd tu allan. Mae croeso i gwsmeriaid ddod â’u ffrindiau blewog draw i Cosy Club i fwynhau bwyd blasus, moethusrwydd y bar a golygfa o’r bae.
  • Mae Bill’s yn hapus i groesawu eich ffrindiau pedair coes cyn belled â’u bod yn ymddwyn yn dda, yn gyfeillgar ac yn hapus i eistedd ar y llawr. Mae ganddyn nhw hyd yn oed fwydlen arbennig i gŵn sydd newydd ei chyflwyno!
  • Mae Demiro’s yn croesawu cŵn ac yn darparu dŵr iddyn nhw.
  • Mae The Club House yn croesawu cŵn yn y bar ac ar y teras tu allan.
  • Mae awyrgylch a naws gwych yn Hub Box – gyda digon o le i gwsmeriaid a’u cŵn. Mae’n lle cyfeillgar i gŵn a gall cŵn fod tu mewn a thu allan. Gall ymwelwyr fwynhau golygfeydd hyfryd o’r glannau gydag awel braf ar ddiwrnod poeth o haf yn ogystal â chysgod rhag yr haul y tu mewn a’r tu allan.

Hapus i fwynhau eich bwyd tu allan? Mae pob un o’r bwytai a’r caffis isod yn caniatáu i gŵn eistedd yn eu mannau eistedd allanol.

  • Mae Côte yn caniatáu cŵn y tu allan ar eu teras.
  • Mae PizzaExpress yn caniatáu cŵn yn eu hardal eistedd tu allan.
  • Mae Signor Valentino yn caniatáu cŵn yn eu hardal eistedd ar y balconi.
  • Mae Zizzi’s yn caniatáu cŵn yn eu hardal eistedd ar y balconi.
  • Tra byddwch chi’n ymweld â ni, beth am ychydig o siopa?
  • Mae Pavers yn Mermaid Quay yn croesawu cŵn y tu mewn i’w siop.
  • Mae Zia Boutique yn croesawu cŵn yn y siop ac mae digon o anrhegion i bob un sy’n hoff o anifeiliaid! Mae digon o opsiynau perffaith i wneud i gynffonau siglo’n ôl ac ymlaen.