Men Walking and Talking

Mae Men Walking and Talking yn cynnal teithiau cerdded iechyd meddwl. Eu diben yw dod â dynion at ei gilydd mewn lle diogel, a rhoi diwedd ar stigma iechyd meddwl dynion trwy gynnig cefnogaeth i’w gilydd.
Dechreuwyd y fenter yn 2021 yn Telford gan Dan Reid. Dim ond un ddaeth ar y daith gyntaf ond bellach cynhelir 16 o deithiau cerdded ar draws 9 sir. Yn 2022, daeth Men Walking and Talking yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) ac ym mis Tachwedd 2023 daeth yn aelod sefydliadol o’r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Genedlaethol (NCPS).
Bob dydd Mawrth am 7pm, mae Tom ac Al yn arwain taith gerdded hamddenol trwy Benarth. Mae’r grŵp yn gyfle i ddynion siarad yn agored heb unrhyw farn.
Chwiliwch am grŵp yn agos atoch chi yma.