Ers blynyddoedd mae JRC Global Buffet wedi bod yn gweini prydau ffres sy’n tynnu dŵr o’r dannedd, o bob cwr o’r byd, o dan un to. O liwiau a sbeisys bwyd Indiaidd i symlrwydd a chywreinrwydd gril Teppanyaki Siapaneaidd. O’r pitsas Eidalaidd mwyaf ffres i’r cig rhost Brasiliaidd gwerinol, mae JRC Global Buffet yn ymfalchïo ym mhob un o’r 200 a rhagor o seigiau sy’n cael eu gweini bob dydd yn ein bwyty yng Nghei’r Fôr-forwyn, yn ogystal â’r saith bwyty arall sydd gennym ledled de Lloegr, ac rydym yn cymryd yr un gofal wrth baratoi pob un. Mae’n brofiad bwyta llawn steil, ond eto’n hamddenol, i bob aelod o’r teulu – gan gynnig bwyd go iawn a thechnegau coginio cywrain mewn amgylchedd gwych am brisiau diguro.

Caiff y bwyd ei baratoi a’i goginio o flaen eich llygaid – mae hwn yn brofiad bwffe a hanner. Mae gan bob un o’n bwytai orsafoedd coginio byw lle mae cogyddion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn darparu sioe ichi, yn ogystal â bwyd o’r radd flaenaf, sy’n cael ei gyrchu a’i baratoi fel petaech yn un o’r 12 o brif wledydd sy’n cael eu hadlewyrchu yn ein bwydlenni. A chan fod hwn yn brofiad lle gallwch fwyta cymaint ag a fynnoch am bris penodol, mae’r byd i gyd yno ichi ei flasu. Ond cofiwch adael lle i bwdin, mae digonedd o ddewis ar gael!

Darganfyddwch fyd mawr crwn o flas yn JRC Global Buffet Bae Caerdydd. Archebwch eich bwrdd heddiw.

Oriau Agor

Llun to Iau 16:30 – 21:30
Gwener 16:30 – 22:30
Sadwrn 12:30 – 22:30
Sul 13:00 – 21:00

Phone

02920 461 333

Website

jrc-globalbuffet.com

Facebook

BuffetCardiff

Instagram

jrc_global_buffet

Phone

02920 461 333

Website

jrc-globalbuffet.com

Facebook

BuffetCardiff

Instagram

jrc_global_buffet