Green T Therapy – Sesiynau tylino a reiki yn Mermaid Quay

Ymlacio ac adferiad – Mae’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, felly rydyn ni wedi partneru â Tanya o Green T Therapy i gynnig sesiynau 10 munud o dylino neu reiki yn rhad ac am ddim yng nghanol Mermaid Quay.
Galwch heibio’r ganolfan ddydd Iau, 16 Mai 11am-12:30pm a 2:00pm-4:00pm. Cewch ddewis un o’r opsiynau canlynol:

  1. Tylino gwddf / cefn / ysgwyddau
  2. Tylino dwylo
  3. Tylino pen Indiaidd
  4. Tylino Thai trwy ymestyn
  5. Reiki

Does dim modd archebu lle ymlaen llaw, gallwch drefnu eich slot ar y diwrnod!

Ynglŷn â Green T Therapy
• Wedi’i sefydlu yn 2010 gan therapydd cymwysedig VTCT Tanya Ong
• Wedi’i leoli yn y Grysmwnt, Sir Fynwy
• Mae’r holl gynhyrchion a ddefnyddir yn figan a digreulon
• Mae Tanya yn eiriolwr hunanofal ac wrth ei bodd gyda deunydd ysgrifennu. Dilynwch @green_t_therapy i gael y diweddaraf ac awgrymiadau hunanofal!

Yr opsiynau sydd ar gael:

  1. Tylino cefn/ysgwydd: Mae technegau ymlacio yn gweithio meinwe meddal y corff i helpu i leddfu tyndra a thensiwn yn yr ysgwyddau. Mae’r tylino yn ysgafn neu’n ddwfn yn ôl yr angen.
  2. Tylino dwylo: Rhowch ofal i’ch dwylo mewn sesiwn o dylino’r dwylo a mwynhau egwyl dawel a bodlon!
  3. Tylino Pen Indiaidd: Mae’r dull hwn o dylino croen y pen yn gweithio ar ran uchaf yr ysgwyddau, y gwddf a chroen y pen gan ddefnyddio technegau amrywiol. Os ydych chi’n hoffi rhywun yn cyffwrdd â’ch gwallt, dyna’r un i chi!
  4. Tylino Thai trwy ymestyn: Ar eich eistedd neu’ch gorwedd, mae’r math hwn o dylino yn defnyddio ymestyn, cywasgu ac aciwbwyso ac yn eich adfywio’n barod i wynebu’r diwrnod!
  5. Reiki: Perffaith ar gyfer adfer cydbwysedd a chadernid. Mae’r driniaeth ysgafn a di-gyffwrdd hon yn helpu i ddod â’r meddwl, corff ac ysbryd yn ôl i gyflwr o gydbwysedd a lles. Addas i bawb.