GOSTYNGIAD I FYFYRWYR YN Y GLEE COMEDY CLUB

Mae gan The Glee bris myfyrwyr ar bob un o’u sioeau comedi All in Comedy nos Iau, a Friday Night Comedy a Saturday Night Comedy ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.
I weld sut i archebu eich tocynnau i fyfyrwyr, ewch i wefan The Glee i weld pa sioeau sydd ar gael am bris gostyngedig – https://www.glee.co.uk/cardiff/students/

Cefndir clwb comedi The Glee:
Mae clybiau comedi The Glee yn grŵp o leoliadau comedi, cerddoriaeth a digwyddiadau byw arbennig. Dyma gartref comedi stand-yp, gyda sioeau wynebau amrywiol ar y penwythnos ac enwogion ar daith gyda’u sioeau unigol.
Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal gigs cerddorol, digwyddiadau llafar a sgyrsiau, a sioeau cabaret a bwrlésg.