Girls Who Walk, Caerdydd

Mae Girls Who Walk Ltd yn sefydliad nid-er-elw yn y DU. Bellach mae mwy na 30 o grwpiau ar hyd a lled y wlad sy’n cael eu rhedeg gan arweinydd / cydlynydd lleol.
Eu nod yw goresgyn unigrwydd un cam ar y tro!
Lansiwyd Girls Who Walk, Caerdydd ym mis Awst 2023, a chafwyd eu taith gerdded swyddogol gyntaf ym Mharc Bute y mis hwnnw.
Rheolir grŵp Caerdydd gan Mollie, Paige, Ashely a Chloe.
Dilynwch eu sianeli cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu teithiau cerdded misol.

Girls Who Walk, Cardiff – Instagram

Girls Who Walk, Cardiff – Facebook

Dyddiadau i’w hychwanegu yn eich calendr – teithiau cerdded Mis Mai

  • Dydd Sul 12 11am Parc Bute
  • Dydd Sul 26 11am Bae Caerdydd

Dewch am dro, boed law neu hindda, o gwmpas Parc Bute neu Fae Caerdydd yng nghwmni criw hyfryd!