Girls Who Run, Caerdydd

Dechreuodd y daith i Anna-Lee a Bethan ar ddiwedd mis Awst 2023 pan gofrestrodd Anna-Lee i gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd er budd Cymdeithas Alzheimer. Arferai Bethan redeg yn y rhan fwyaf o’r rasys, a byddai’r ddwy yn aml yn trafod gymaint o hwyl fyddai cael clwb rhedeg/cymdeithasol i’r merched!
Lansiwyd Girls Who Run Caerdydd ym mis Hydref 2023 gan gyflawni eu taith gyntaf fel grŵp ym mis Tachwedd. Erbyn hyn mae sesiynau grŵp misol yn cael eu cynnal. Nod y clwb yw rhoi cyfle i’r aelodau wneud ffrindiau newydd, wrth redeg a gwneud gweithgareddau llawn hwyl.
Mae croeso i bobl o bob oed a gallu, cadwch lygad ar y sianeli cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf am rasys, cyfarfodydd, diwrnodau i’r merched a llawer mwy!

Girls Who Run, Cardiff – Instagram

Dyddiadau mis Mai:

  • 5 Mai 2024 – sesiwn 5km (digwyddiad â thâl)
  • 9 Mai 2024 – sesiwn 5km
  • 11 Mai 2024 – sesiwn 10km
  • 13 Mai 2024 – noson fowlio (digwyddiad â thâl)
  • 19 Mai 2024 – sesiwn 5km mewn partneriaeth â Mind Caerdydd
  • 23 Mai 2024 – bore ioga (digwyddiad â thocyn)
  • 28 Mai 2024 – sesiwn 5km

Hefyd, bydd cyfle i fachu coffi a thamaid i fwyta ar ôl rhai sesiynau rhedeg, sy’n gyfle gwych i gwrdd â ffrindiau newydd!
Ar gyfer y dyddiadau uchod ym mis Mai, cadwch lygad ar dudalen Instagram Girls Who Run, Caerdydd am y manylion diweddaraf a digwyddiadau â thocyn!