GARDD DO WEDI’I HAILGYLCHU YN MERMAID QUAY

Mae Mermaid Quay yn falch o gyhoeddi bod gennym ardd ben to hardd sy’n tyfu amrywiaeth eang o ffrwythau, llysiau a pherlysiau.
Mae’r ardd wedi’i chynllunio’n ofalus gan ein Technegydd Cynnal a Chadw ar y safle. Fe’i crëwyd gan ddefnyddio paledi pren dros ben o’n gwaith adnewyddu diweddar i’r mannau cyhoeddus, gwastraff plastig o waith casglu sbwriel dŵr a rheoli gwastraff ar y safle, hen rwydi to, cafnau pren oedd yn arfer dal planhigion ar strydoedd a hen botiau blodau ein tenantiaid.
Mae’n bwysig bod yr ardd do yn cael ei chreu a’i chynnal o waith adfer y safle, gan hyrwyddo cynaliadwyedd ac ailddefnyddio deunyddiau a fyddai fel arall wedi mynd i safleoedd tirlenwi.
Bydd yr ardd hefyd yn darparu amgylchedd ecogyfeillgar i bryfed a gwenyn a fydd, gobeithio, yn hybu bioamrywiaeth ein cynefin.