Siop anrhegion Cymreig cyfoes yw Fabulous Welshcakes sy’n gwerthu pice ar y maen yn ffres o’r gridyll ac amrywiaeth eang o anrhegion Cymreig, yng nghalon Mermaid Quay.

 

Mae yna bob math o anrhegion blasus a chwaethus ar gael, gyda llawer yn rhai lleol ac wedi’u gwneud i’r safonau uchaf. Mae Fabulous Welshcakes yn falch o fod wedi ennill cymeradwyaeth Gwir Flas yn yr ‘Oscars’ bwyd a diod Cymreig am eu pice ar y maen, ac mae llawer o’r cynhyrchion eraill sydd ar gael yma yn enillwyr Gwir Flas hefyd.

 

Gydag amrywiaeth o anrhegion fel llechi Cymreig, tecstilau Melin Tregwynt, llwyau caru Cymreig, siocledi wedi’u gwneud â llaw a gemwaith lleol ar gael, mae ganddyn nhw rywbeth ar gyfer pob achlysur.

Galwch heibio i’w gweld – a chael eich hudo gan yr arogl pobi!

Oriau Agor

Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am – 5.30pm
Dydd Sul 11am – 4.30pm

Phone

029 2045 6593

Website

fabulouswelshcakes.co.uk

Facebook

fabulouswelshcakes

Instagram

fabulouswelshcakes

Phone

029 2045 6593

Website

fabulouswelshcakes.co.uk

Facebook

fabulouswelshcakes

Instagram

fabulouswelshcakes