Everyman

Mae Everyman yn ailddiffinio sinema. Gyda’i ethos ffordd o fyw arloesol, gallwch fwynhau diod a bwyd wedi’i baratoi’n ffres ac wedi’i weini’n syth i’ch sedd.

Mae Everyman Bae Caerdydd yn cynnwys gofod bar a lolfa, a phum sgrin gyda seddi soffa cyfforddus enwog Everyman. Mae’r awyrgylch yn gynnes a chyfeillgar, gyda bwyd a diod ardderchog a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn Everyman; law yn llaw â bwyd a diod blasus a gwasanaeth cwsmeriaid o’r radd flaenaf, mae detholiad amrywiol o ffilmiau prif ffrwd, annibynnol a chlasurol, digwyddiadau arbennig, lansiadau a chalendr amrywiol o ddarllediadau byw.

Oriau Agor

Ar agor o 10am bob dydd (neu hanner awr cyn ffilm gyntaf y dydd, os yn gynharach).

Cyswllt

0872 436 9060

www.everymancinema.com/cardiff

FB: EverymanCardiff

IN: everyman_cardiff