Elusennau

Mae Mermaid Quay yn eiddo preifat.

Rhaid cadw’n gaeth at y rheolau canlynol:

Os oes arnoch eisiau casglu arian i elusen ar y stryd yng Mermaid Quay, mae arnoch angen caniatâd ysgrifenedig rheolwyr Mermaid Quay. Dylid gwneud cais am hwn i’r rheolwr marchnata (manylion cyswllt isod) o leiaf bythefnos cyn y dyddiad(au) casglu arfaethedig. Nid oes angen trwydded casglu gan Gyngor Dinas Caerdydd.

Dim ond gydag elusennau cofrestredig y gall Mermaid Quay weithio.

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen ichi ddarparu manylion y dyddiadau a’r amseroedd casglu arfaethedig, nifer y casglwyr, y math o gasgliad a llythyr awdurdodi gan yr elusen.

Dylid casglu arian mewn ffordd nad yw’n peri anhawster i aelodau’r cyhoedd nac yn eu gwylltio. Dylai casglwyr, felly, aros yn llonydd a gadael i ymwelwyr ddewis a oes arnynt eisiau cyfrannu ai peidio.

Mewn achosion lle ceir mwy nag un casglwr, rhaid iddynt fod o leiaf 25 metr ar wahân. Dim ond casglu arian yr ydym yn ei ganiatáu – ni chaniateir yr hyn a elwir yn Saesneg yn “chugging”, sef casglu tanysgrifiadau i elusennau. Ni ddylid, ar unrhyw adeg, ofyn i ymwelwyr â Mermaid Quay am eu manylion banc, na gofyn iddynt drefnu archeb sefydlog.

Dim ond un elusen a ganiateir ar y safle ar yr un pryd.

Rhaid i’r casglwyr gydymffurfio ag unrhyw gais, a phob cais, gan reolwyr a staff diogelwch Mermaid Quay o ran lleoliad y casglwyr, y dechneg casglu, ac ati.

Mae rheolwyr Mermaid Quay yn cadw’r hawl i ofyn i unrhyw gasglwr, a phob casglwr, adael ein safle os bydd unrhyw rai o’r rheolau a’r rheoliadau yn cael eu torri.

Rheolau Cyffredinol

Mae’r rheolau cyffredinol canlynol yn berthnasol i’r holl gasgliadau codi arian yng Mermaid Quay:

  • ni chaniateir i bobl ifanc dan 16 oed weithredu fel casglwyr, a chyfrifoldeb hyrwyddwr y casgliad yw sicrhau bod y rheol hon yn cael ei gorfodi.
  • rhaid i bob casglwr fod â bocs casglu, a rhaid iddo fod wedi’i rifo a’i gau a’i selio’n ddiogel fel na ellir ei agor heb dorri’r sêl.
  • rhaid i’r blychau casglu fod wedi’u rhifo’n olynol.
  • rhaid i’r holl arian a gesglir yn ystod casgliad gael ei roi mewn blwch casglu yn ddi-oed.
  • rhaid i’r holl flychau casglu arddangos enw’r elusen neu’r gronfa y cesglir ar ei chyfer yn amlwg.
  • rhaid i’r holl flychau casglu gael eu hagor ym mhresenoldeb yr hyrwyddwr a pherson cyfrifol arall, ac eithrio mewn achosion pan fydd y blwch heb ei agor yn cael ei ddanfon yn syth i’r banc (dan yr amgylchiadau hynny, caniateir i’r banc agor y blwch casglu).
  • rhaid i’r person sy’n agor y blwch gyfrif y cynnwys a nodi’r swm, ynghyd â rhif y blwch casglu, ar restr, a rhaid i’r person hwnnw ardystio’r rhestr honno.
  • rhaid peidio â gwneud taliadau i unrhyw gasglwr arall, nac i unrhyw berson, sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â’r hyrwyddiad.

Mae angen o leiaf 48 awr o rybudd arnom i brosesu’r gwaith papur. Byddwn yn gofyn i chi gyflwyno datganiad dull o waith/disgrifiad manwl o’r hyn yr hoffech ei wneud, asesiad risg sy’n benodol i’r safle ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gydag isafswm o £5m ar gyfer pob digwyddiad unigol.

I gael rhagor o wybodaeth am gasglu arian ar gyfer elusen yng Mermaid Quay, e-bostiwch [email protected].