Byddwch yn barod am benwythnos o hwyl gyda’r deinosoriaid wrth i’r Bae Jwrasig gymryd drosodd Bae Caerdydd ddydd Sadwrn a dydd Sul, 5 a 6 Gorffennaf!
Gan gyd-fynd â rhyddhau’r ffilm epig newydd, Jurassic World: Rebirth, bydd y Bae’n llawn gweithgareddau teuluol am ddim i’r rheini sy’n dwlu ar ddeinosoriaid, waeth beth yw eu hoed.
Beth sy’n digwydd ym Mermaid Quay?
Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf
- 12pm – 12:20pm Razor
- 1pm – 1:15pm Deinos Bach
- 1:30pm – 1:50pm Razor
- EGWYL
- 2:30pm – 2:50pm Razor
- 3pm – 3:15pm Deinos Bach
Rhowch gynnig arni yng Ngloddfa’r Deinos, am ddim, rhwng 12pm a 4pm.
Dydd Sul, 6 Gorffennaf
Bydd Cloddfa’r Deinos yn ei hôl am fwy o hwyl hela ffosiliau rhwng 12pm a 4pm.
Bydd mwy o ymddangosiadau gan y deinosoriaid yn ystod y dydd ar yr adegau canlynol:
- 12pm – 12:20pm
- 1pm – 1:20pm
- 3pm – 3:20pm
Cwblhewch eich antur ddeinosoraidd gydag ymweliad â Sinema Everyman ym Mermaid Quay i wylio Jurassic World: Rebirth!
Tra byddwch chi yma, beth am wneud diwrnod ohoni? Bydd hyd yn oed mwy o hwyl deinosoraidd yn digwydd ar draws y Bae i deuluoedd ei fwynhau drwy gydol y penwythnos – y manylion llawn yma.