Mae Brasserie Côte wedi’i leoli gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm, ac ar agor bob dydd am frecwast, cinio a swper, gan weini bwyd Ffrengig syml wedi’i baratoi’n ffres am brisiau sy’n rhoi gwerth am arian.

Mae Côte yn cynnig fersiynau modern o brydau Ffrengig clasurol, gyda ffefrynnau traddodiadol ar y fwydlen, megis steak frites, nicoise tiwna, draenog y môr wedi’i rostio a chyw iâr wedi’i fwydo â grawn o Languidic yng nghefn gwlad Llydaw.

Mae Côte, sydd wedi ennill gwobr Bwyty Gwerth Gorau’r Deyrnas Unedig y Good Food Guide, wedi ymrwymo i weini prydau rhagorol am brisiau cystadleuol.

Mae’r awyrgylch yn un anffurfiol a chyfeillgar, ac mae yna restr gynhwysfawr o winoedd am brisiau rhesymol, gyda gwinoedd rhanbarthol o bob rhan o Ffrainc. Mae Wi-Fi am ddim ar gael.

Oriau Agor

Llun – Sul: 09:00 – 22:00

Phone

029 2045 3780

Website

www.cote.co.uk

Facebook

coterestaurant

Phone

029 2045 3780

Website

www.cote.co.uk

Facebook

coterestaurant