Mae Aquabus yn darparu gwasanaeth bws dŵr rhwng Cei’r Fôr-forwyn a Chastell Caerdydd yng nghanol y ddinas trwy Benarth. Gyda’r dechnoleg ddiweddaraf a thechnoleg GPRS, mae’r Hydro 1 24 sedd yn ffordd amgen, ddibynadwy, gyflym a llawn hwyl o deithio o amgylch Caerdydd.

Mae’r Aquabus yn rhedeg o erddi’r Castell i Gei’r Fôr-forwyn bob awr, ar yr awr, rhwng 11.00am a 5.00pm, ac o Gei’r Fôr-forwyn i’r ddinas am hanner awr wedi’r awr, rhwng 10.30am a 4.30pm.

Mae yna fynediad llawn i gadeiriau olwyn, yn ogystal â mynediad gwastad ar gyfer teithwyr eiddil neu hŷn, ac nid oes unrhyw risiau.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth a’r amserlenni ar www.aquabus.co.uk

Mae Aquabus hefyd yn darparu ar gyfer llogi preifat a phartïon ar ein cwch lletygarwch “Seren-y-bae”. Mae pob digwyddiad yr ydym yn ei gynnal wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion y cleient. Ymhlith y dewisiadau y mae pecynnau diodydd, bwffes gwych, derbyniadau siampên a cherddoriaeth fyw/adloniant. Felly beth am roi galwad inni ac archebu parti cofiadwy, gyda Bae bendigedig Caerdydd yn gefnlen drawiadol iddo?

Mae teithiau tymhorol ar gael i weld y golygfeydd lleol ar ein cwch 100 sedd diweddaraf o Gei’r Fôr-forwyn, gan adael ar yr awr fel arfer, rhwng 11.00am a 4.00pm.

Phone

029 2034 5163

Website

aquabus.co.uk

Phone

029 2034 5163

Website

aquabus.co.uk