Bysgio Yng Mermaid Quay

Mermaid Quay yw un o leoliadau gorau Caerdydd ar gyfer bysgio proffesiynol â thrwydded. Bob blwyddyn daw miloedd o bobl i lannau’r Bae, gan ymweld â’n bwytai, ein caffis, ein bariau a’n siopau/gwasanaethau, yn ogystal ag i ymlacio.

Mae Mermaid Quay yn croesawu bysgiwyr gydol y flwyddyn, ond gan mai lleoliad awyr agored yw Mermaid Quay, misoedd yr haf sydd fwyaf poblogaidd. NI chaniateir bysgio heb gymeradwyaeth ymlaen llaw.

Mae Mermaid Quay yn cynnig cyfle bysgio unigryw ar lan y dŵr i bob math o berfformwyr, gan gynnwys:

Cerddorion
Jyglwyr
Cerfluniau Byw
Diddanwyr Stryd
Consurwyr

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i fysgio yng Mermaid Quay, e-bostiwch [email protected] gyda disgrifiad byr o’ch perfformiad a’ch math o gerddoriaeth (gan gynnwys faint o bobl sy’n rhan o’r perfformiad) a dolen i fideo enghreifftiol/clip YouTube neu rywbeth tebyg. Rhowch wybod i ni pryd hoffech chi berfformio a chadarnhau a ydych chi angen pŵer.

Yna byddwn yn cysylltu â chi yn uniongyrchol i roi trefn ar y gwaith papur.

Dylech fod yn ymwybodol mai lleoliad awyr agored yw Mermaid Quay. Dim ond ychydig o gysgod sydd ar gael i fysgiwyr ei ddefnyddio mewn glaw trwm neu dywydd garw.

Rhaid i’r holl fysgwyr gytuno i gydymffurfio â rheolau safle caeth Mermaid Quay o ran mynediad i’r safle, iechyd a diogelwch a materion eraill, fel y’u pennir yn y Telerau ac Amodau isod.

Am ragor o wybodaeth am Mermaid Quay, cliciwch yma.

BYSGIO YN MERMAID QUAY (MQ) – TELERAU AC AMODAU

  • Ni chaniateir i fysgwyr berfformio heb gytundeb ymlaen llaw. Bydd unrhyw berfformwyr a ganfyddir yn bysgio heb ganiatâd yn cael eu symud o’r safle gan y staff diogelwch, a bydd pob dyddiad bysgio yn y dyfodol yn cael ei ganslo. Cysylltwch â Mermaid Quay yn [email protected] i drefnu bysgio.
  • Bydd yr holl berfformiadau bysgio yn cael eu cynnal yn y lleoliad a nodir gan staff Mermaid Quay ar ddiwrnod y perfformiad. Er bod pobl yn bysgio fel arfer ar y Cei, ger y cerflun People Like Us, gallai’r lleoliad bysgio amrywio, yn dibynnu ar ba ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal. Ni chaniateir i fysgwyr symud i leoliad arall heb ganiatâd penodol gan staff Mermaid Quay.
  • Mae’n rhaid i fysgiwyr gwblhau ffurflen trwydded bysgio. Bydd y ffurflen hon yn cael ei darparu ar ôl cadarnhau’r dyddiad perfformio. Mae’n rhaid ei chwblhau, ei llofnodi a’i dychwelyd at [email protected] o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad perfformio.
  • Mae’n rhaid i bob bysgiwr gyflwyno asesiad risg. Bydd templed yn cael ei ddarparu gyda’r ffurflen trwydded bysgio neu gall fysgiwyr ddefnyddio eu hasesiadau risg eu hunain. Mae’n rhaid e-bostio’r asesiad risg at [email protected] ar yr un adeg â’r ffurflen trwydded bysgio.
  • Os oes gan fysgwyr proffesiynol eu Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eu hunain, rhaid e-bostio copi ohono at [email protected] ar yr un adeg â’r ffurflen trwydded bysgio.
  • Yr isafswm oed yw 16. Ni chaniateir i blant dan 16 oed fysgio yn Mermaid Quay
  • Wrth gyrraedd MQ, mae’n rhaid i bob bysgiwr fynd at y ddesg Diogelwch i gasglu eu Trwydded Bysgio cyn paratoi i berfformio. Mae swyddfa’r staff diogelwch yn Swyddfa Reoli Mermaid Quay, a’r fynedfa rhwng Yakitori#1 a Zia Boutique ar Stryd Bute. Ewch trwy’r drysau gwydr dwbl i mewn i’r Atriwm, i fyny’r grisiau ac mae’r swyddfa reoli yn y gornel ar y dde. Gwasgwch y botwm diogelwch a bydd aelod o’r tîm yn eich cynorthwyo. Rhaid i fysgwyr hefyd lofnodi eto gyda’r staff diogelwch cyn iddynt adael y safle.
  • Os oes un ar gael, gall Mermaid Quay ddarparu gasibo i’w ddefnyddio gan fysgiwyr fel cysgod os yw’n boeth iawn neu i gysgodi rhag glaw mân. Nid yw’r gasibos yn addas ar gyfer glaw trwm ac ni ellir eu defnyddio mewn gwyntoedd cryfion. Nodwch ar y drwydded fysgio a hoffech chi ddefnyddio’r gasibo a byddwn yn cadarnhau a yw ar gael. Bydd tîm Diogelwch Mermaid Quay yn penderfynu ar y diwrnod a ellir defnyddio’r gasibo ai peidio, a bydd y tîm yn ei godi cyn amser cyrraedd y bysgiwyr. Cyfrifoldeb y bysgiwr yw cadarnhau ei fod yn hapus bod y gasibo wedi ei godi’n iawn ac yn sefydlog ac yn briodol i’w ddefnyddio.
  • Mae’r amseroedd bysgio ar y cei (y tu allan i The Dock) yn hyblyg rhwng 12 hanner dydd ac 8pm. Gellir trefnu amseroedd eraill ymlaen llaw yn rhan o’r broses gymeradwyo uchod.
  • Mae’n rhaid cadw lefelau sain yn isel i darfu cyn lleied â phosibl ar ymwelwyr a’r bwytai/siopau. Os bydd y staff diogelwch yn gofyn i fysgwyr ostwng lefel sain eu perfformiad, rhaid iddynt wneud hynny yn ddi-oed a heb ddadlau. Yna rhaid i lefelau’r sain aros ar y lefel ostyngedig honno.
  • Bydd Mermaid Quay yn rhoi mat bysgio swyddogol Mermaid Quay i bob bysgiwr, ynghyd â matiau rwber i orchuddio ceblau trydan. Rhaid dychwelyd yr eitemau hyn i’r staff diogelwch ar derfyn pob diwrnod, wrth lofnodi i adael.
  • Rhaid i’r holl offer trydanol a ddefnyddir ar y safle yng Mermaid Quay fod â thystysgrifau Profi Diogelwch Trydanol (PAT) dilys. Rhaid i’r holl fysgwyr sicrhau bod yr holl wifrau a cheblau sy’n llusgo o’u hôl (boed yn eiddo iddynt hwy neu i Mermaid Quay) wedi eu gorchuddio â’r matiau ac nad ydynt yn achosi perygl i’r cyhoedd nac iddynt hwy eu hunain. Disgwylir i fysgwyr sicrhau nad ydynt yn creu unrhyw broblemau iechyd a diogelwch eraill o unrhyw fath tra byddant ar y safle.
  • Mae’n rhaid i fysgiwyr ofyn am ganiatâd MQ ymlaen llaw i arddangos unrhyw fath o arwyddion yn ystod perfformiadau.
  • Mae Mermaid Quay yn ardal i gerddwyr yn unig – ni chaniateir mynediad i gerbydau. Rhaid i fysgwyr gario eu hoffer i’r safle ac oddi yno.
  • Mae parcio ar gael ym maes parcio dwy lefel Mermaid Quay i ymwelwyr, i gerbydau sy’n 2m neu is o uchder. Mae’r fynedfa ar Stryd Stuart. Mae’r maes parcio yn gweithredu gan ddefnyddio system barcio heb docyn, gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i adnabod rhifau cofrestru yn awtomatig. Rhaid i fysgwyr dalu am eu parcio eu hunain yn y ffordd arferol.
  • Os bydd rheolwyr neu staff diogelwch canolfan Mermaid Quay yn gofyn i fysgwyr wneud unrhyw newidiadau i’w trefniadau (gan gynnwys eu lleoliad a’r cyfeiriad y maent yn wynebu iddo), rhaid iddynt gydymffurfio’n syth, a hynny heb ddadlau.
  • Mae MQ yn gyrchfan safonol sy’n croesawu teuluoedd. Rhaid i’r holl fysgwyr ymddwyn, gwisgo a pherfformio mewn modd sy’n addas ar gyfer yr amgylchedd hwn, a chadw’r ardal berfformio yn daclus.
  • Nid yw Rheolwyr Canolfan MQ yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golledion neu ladrata cyfarpar perfformio neu eiddo personol ar unrhyw adeg, gan gynnwys wrth baratoi cyn ac ar ôl perfformio.
  • Os bydd yn rhaid i fysgiwr ganslo perfformiad am unrhyw reswm, gan gynnwys yn sgil tywydd gwael, rhaid iddynt e-bostio [email protected] yn ddi-oed a chysylltu â staff diogelwch Mermaid Quay ar 02920 480077.

Mae’n rhaid cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau hyn – maent yn rhan o reolau safle llym MQ i sicrhau diogelwch drwy’r amser i ymwelwyr a lleihau effeithiau negyddol ar fusnesau Mermaid Quay.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: [email protected]