byw image

Fabulous Welshcakes

Mae Fabulous Welshcakes yn siop sy’n gwerthu amrywiaeth eang o anrhegion cyfoes o Gymru, yn ogystal â theisennau cri yn ffres o’r radell, a hynny yng nghanol Cei’r Fôr-forwyn.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o nwyddau blasus a chwaethus, llawer ohonynt yn lleol a’r cyfan o’r safon uchaf. Rydym yn falch bod ein teisennau cri wedi cael cymeradwyaeth Gwir Flas yn ‘Oscars’ y byd bwyd a diod yng Nghymru, ac mae llawer o’r cynhyrchion eraill yr ydym yn eu gwerthu wedi ennill gwobrau Gwir Flas hefyd.

A ninnau’n cynnig amrywiaeth o anrhegion megis nwyddau llechen o Gymru, tecstilau Melin Tregwynt, llwyau caru o Gymru, llyfrau, losin traddodiadol o Gymru, siocledi cartref a gemwaith a wnaed yn lleol, mae gennym rywbeth i bawb at bob achlysur.

Dewch i’n gweld; rydym dafliad carreg o’r Salt Bar – dim ond dilyn arogl y pobi sydd rhaid!