Taflenni Gweithgaredd y Llwybr Celf i Ddisgyblion
Mae taflenni gweithgaredd y Llwybr Celf isod yn addas ar gyfer dosbarthiadau Derbyn, CA1, CA2 a CA3 a byddent yn gwneud diwrnod addysgiadol gwych ym Mae Caerdydd. Mae’r holl daflenni gweithgaredd ar gael i’w lawrlwytho isod, mewn lliw a du a gwyn er mwyn eu llungopïo, ynghyd â map yn dangos lleoliadau’r gweithiau celf. Ceir hefyd daflenni i athrawon ar gyfer gweithgareddau yn ôl yn yr ystafell ddosbarth.
Beth am baru hyn â gweithgaredd arall ym Mae Caerdydd? Lawrlwythwch Becyn Addysg y Bae.