
Plas Roald Dahl
Mae’r hen Fasn Hirgrwn bellach yn arena adloniant gyhoeddus awyr agored sy’n dal 10,000 o bobl, y drws nesaf i Gei’r Fôr-forwyn.
Gweld
Y Senedd
Agorwyd adeilad y Senedd yn 2006, a chafodd ei gynllunio gan y pensaer nodedig o Brydain, Richard Rogers. Dyma siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gweld
Adeilad Y Pierhead
Codwyd adeilad y Pierhead yn 1897, ac ers hynny mae’n un o brif nodweddion Bae Caerdydd. Gelwir ei gloc yn answyddogol yn Big Ben Cymru. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu yn 2010 ac mae’n gartref i arddangosfeydd am hanes y Bae ac yn lleoliad dadleuon cyhoeddus.
Gweld
Canolfan Mileniwm Cymru
Agorodd Canolfan y Mileniwm yn 2004, ac mae’n rhan allweddol o’r Bae yn ddiwylliannol ac yn weledol, gan gynnal amrywiaeth eang o berfformiadau, o opera i fale i gomedi a sioeau cerdd.
Gweld
Techniquest
Dyma ganolfan wyddoniaeth a darganfod hynaf y Deyrnas Unedig, a gellir ei chyrraedd ar droed o Gei’r Fôr-forwyn o fewn ychydig funudau. Mae’n rhoi cyfle i ymwelwyr gael profiadau ymarferol o wyddoniaeth.
Gweld
Yr Eglwys Norwyaidd
Hen eglwys y morwyr Norwyaidd yw hon, a symudwyd i’w lleoliad presennol yn 1992. Mae bellach yn ffynnu fel canolfan ddiwylliannol.
Gweld
Urdd Gwneuthurwyr Cymru, Crefft yn y Bae
Oriel drawiadol sy’n arddangos ac yn gwerthu crefftau cyfoes gan lawer o ddylunwyr a chrefftwyr gorau Cymru. Ceir yma hefyd chwe arddangosfa fawr bob blwyddyn o weithiau celf cenedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer gweithgareddau crefft ymarferol, a gellir llogi ystafell gynadle
Gweld