SOOSHI yw prif gynhyrchydd sushi a phrydau dwyreiniol Cymru, ac mae’n defnyddio cynhwysion gan gyflenwyr cymeradwy o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, Ewrop ac Asia, pob un wedi’i ddewis yn ofalus.
Ymhlith y cynnyrch mae:
- BURRITOS SUSHI – ffasiynol, iachus a blasus. Cewch gynllunio eich burrito sushi eich hun trwy ddewis o blith amrywiaeth eang o lenwadau blasus.
- PLATEIDIAU O SUSHI – perffaith ar gyfer achlysuron pan ddaw pawb ynghyd, partïon a chyfarfodydd busnes.
- BOCS SUSHI i fynd
- CAWL MISO
- CAWL NWDLS
Mae’r fwydlen ar gael ar-lein a gallwch archebu trwy’r wefan hefyd. Rydym hefyd yn cludo archebion i CF10 a CF11.