Cysegrfan Ianto
Mae Ianto Jones yn gymeriad ffuglennol yng nghyfres Torchwood y BBC (rhan o frand Doctor Who) a ffilmiwyd yn rhannol yng Nghei’r Fôr-forwyn. Bu farw Ianto mewn gwrthdaro â rhywogaeth estron o’r gofod o’r enw 456 ym mini-gyfres ‘Children of Earth’ Torchwood, a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig ym mis Gorffennaf 2009. Mae’r gysegrfan yn goffâd digymell i’r cymeriad hoffus hwn.
Yn y gyfres, dyma leoliad un o’r mynedfeydd i ganolfan danddaearol ddirgel Torchwood 3, a oedd yn edrych, yn dwyllodrus, fel Canolfan Groeso i ymwelwr. Roedd y fynedfa arall yn defnyddio lifft anweledig ger y tŵr dŵr ym Mhlas Roald Dahl. O’r ganolfan hon, roedd tîm ymroddedig o arwyr – gan gynnwys Ianto Jones – yn gweithio’n ddiflino i ddiogelu’r ddaear rhag bygythiadau gan estroniaid o’r gofod oedd wedi llithro trwy’r hollt mewn amser a gofod sy’n rhedeg trwy Gaerdydd.
O fewn dyddiau i farwolaeth y cymeriad hoffus hwn ar y sioe, dechreuodd dilynwyr y gyfres adael teyrngedau i ddangos eu cariad tuag at Ianto, a’u ffyddlondeb iddo. Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae cefnogwyr o bob rhan o’r byd yn dal i ymweld â’r gysegrfan ac yn gadael cofroddion.
Beth am edrych ar dudalen cysegrfan Ianto ar Facebook, sy’n cael ei chynnal gan rai o ddilynwyr y gyfres?
Os na allwch gyrraedd Caerdydd, ond bod arnoch eisiau inni ychwanegu teyrnged at ein rhith-gysegrfan isod, anfonwch lun neu ddelwedd at marketing@mermaidquay.co.uk gyda’ch neges.