
Ffansi bod yn dywysoges neu’n ddraig? Neu ydych chi’n syml eisiau ennill gwobr anhygoel gan The Crepe Escape Mermaid Quay? Os felly, gwisgwch eich dillad gwisgo lan ffantasi gorau ac ewch lawr i Mermaid Quay ddydd Sul, 28 o Awst a gallech chi fod yn enillydd.
Dros yr haf, byddwn yn mynd ag ymwelwyr i wlad ffantasi canol oesol pan ddaw Teyrnas Ffantasi BRICKLIVE i Tacoma Square, Mermaid Quay.
Gan gymryd ysbrydoliaeth gan yr arddangosfa o naw o fodelau wedi eu gwneud o friciau LEGO®, rydym yn cynnal cystadleuaeth gwisgo lan i’ch galluogi i ymgolli yn y ffantasi.
Yn agored i bob oedran, golyga’r thema ffantasi y gall ymwelwyr adael i’w dychymyg redeg yn wyllt gydag ystod eang o wisgoedd posib – o dywysogesau a marchogion i greaduriaid mytholegol ac ungorniaid!
I ymgeisio, bydd angen i’r rhai sy’n cymryd rhan i fynd i The Crepe Escape, Stryd Bute, Mermaid Quay am 10.30yb ar ddydd Sul 18fed o Awst.
Beirniad y gystadleuaeth fydd Syr Peter o The Crepe. Dewisir tri enillydd, ac un prif enillydd, i ennill danteithion wedi eu hysbrydoli gan ffantasi gan The Crepe Escape.
Y gwobrau fydd:
Yn dilyn coroni ein henillwyr, gwahoddir y cystadleuwyr i gymryd rhan mewn gorymdaith arbennig o gwmpas Mermaid Quay.
Dywedodd Alison Jones, perchennog The Crepe Escape: “Ry’n ni mor gyffrous am arddangosfa Teyrnas Ffantasi’r haf ac yn edrych ymlaen at weld y gwisgoedd wedi eu hysbrydoli gan ffantasi – rydyn ni eisiau i bawb fod mor greadigol â phosib. Os ydych chi eisiau dod wedi gwisgo fel brenhinoedd a breninesau, tywysogesau a marchogion, neu fel rhywbeth hollol wirion, mae croeso i bawb. Edrychwn ymlaen at weld beth fydd gan bawb i’w ddangos i ni.”
Termau ac Amodau ymgeisio:
Termau ac amodau gwobrau:
Hawlfraint © Brick Live Group Limited. Cedwir pob hawl. Mae Brick Live Group Limited yn gynhyrchydd annibynnol o BRICKLIVE ac nid yw’n gysylltiedig â grŵp cwmnïau LEGO. LEGO® yw nod masnachu LEGO Juris A/S.